Yn y traethawd yma mi fyddaf yn trafod cerddi Waldo Williams, Gerallt Lloyd Owen, Ceri Wyn Jones ac Iwan Llwyd. Gobeithiaf cymharu holl gerddi’r beirdd yn ymwneud a rhyfel a thrafod eu cynnwys a’u harddull a sut mae’r beirdd yn teimlo ynglyn a rhyfel.
Mae’r gerdd ‘Y sgerbwd milwr’ gan Gerallt Lloyd Owen yn son am golledion rhyfel ac am y tro gwelodd lun o milwr a daliodd ei lygaid. Mae’n ein hatgoffa ni mae unigolun yw pob milwr “pwy oedd y corf hwn?” am fod pobol o tueddu i gyfri’r colledion fesul degau nid fesul un. “Un yn y rheng” yw’r milwr mae’n trafod ac nid oes annibyniaeth ganddo am fod gymaint o bobol yno. Mae’r bard yn ceisio rhoi hunaniaeth i’r milwr yma wrth son am “ei ddwylo” ac ei fam a’r “galon fu’n curo” oherwydd pryder y fam. Wrth wneud hyn mae’n dangos bod teulu gyda’r milwr a teimlo tosturi dros y fam wrth i’r bardd gyfeirio at y “baban mewn croth” sef y milwr pan oedd yn blentyn. Mae’n codi’r pwynt bod y milwr yma yn ddiniwed “eiddilwch ei ddwylo” ond yn gwrthgyferbynu y fyddai’n rhaid iddo ladd er mwyn achub bywyd ei hun “bu’r dwylo hyn yn barod i ladd. “. Mae’r gerdd yma yn dywyll ac yn dangos y rhyfel fel peth barbaraidd a chreulon. Mae marwolaeth y milwr yn un unig “unigrwydd ei waed” heb urddas, “rhwygo’i berfedd” a cwestyna’r bardd “pa law estron “ allai fod mor greulon a lladd gyda’i “gledd gwlyb”? Cwestiyna’r bardd hefyd faint sy’n rhaid colli er mwyn cael heddwch oherwydd nid yw’n bosib troi nol o angau “gwaed a weldiwyd wrth tragwyddoldeb”. Mae’r bard yn ofni bod rhyfel arall i ddod ac mae’r sgerbwd yn symboli’r marwolaeth (unneccecary)) fel rhyw aberth o bosib yn enw cyfiawnder, rhyw egin chwyldro.
Tra bod Ysgerbwd milwr yn cyfleu marwolaeth fel peth ofnadwy o drist mae’r gerdd ‘geneth ifanc gan Waldo Williams sydd hefyd yn son am sgerbwd yn ceisio cael agwedd bositif