Ysgrifennwyd y gerdd ‘Fy Ngwlad’ gan Gerallt Lloyd Owen ac mae’n perthyn i’r thema Cymru a Chymreictod. Cerdd caeth yw hi wedi ei hysgrifennu yn y mesur cywydd gan fod saith sillaf, cynghanedd ymhob yn llinell, ac odl fesul cwpled. Mae’r ail gerdd sef ‘Cymru’ gan Mei Jones yn perthyn i’r thema. Cerdd benrhydd yw hon ac mae’r iaith yn llafar a llawn bratiaith.
Yn ‘Fy Ngwlad’ mae’r bardd yn cyfarch ei arwr hanesyddol, Llywelyn Ein Llyw Olaf,
Wylit, Wylit, Llywelyn,
Wylit waed pe gwelit hyn
Mae’n ail-adrodd ac yn defnyddio gormodiaeth i bwysleisio ei dristwch o weld Sais o’r enw Siarl yn cael ei arwisgo yn dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969. Yn hollol wahanol, mae Mei Jones yn cyfarch ni sef Cymry heddiw. Defnyddir techneg ail-adrodd drwy holi cyfres o gwestiynau rhethregol
‘Gyn ti cariad i dy heniaith?
Gyn ti sbo’ meddal i dy mamiaith?
Gyn ti? Gyn ti ddim? Fi gyn!’
Defnyddia fratiaith yn fwriadol i gyfleu nad ydy pobl yn siarad Cymraeg perffaith bellach.
Disgrifia’r bardd Gymry’r chwedegau yn goeglyd iawn drwy eu galw’n ‘ffafrgarwyr’ gan eu bod yn crafu a seboni Siarl. Trwy groesawu Siarl mae nhw wedi anghofio yr hyn sy’n eu gwneud nhw’n Gymry, ei gwreiddiau a’u hanes. Brwydro yn erbyn y Saeson oedd Llywelyn ond ‘bihafio’ mae ‘dynion a Brydeiniwyd’
Heb wraidd na chadwynau bro,
Heb ofal ond bihafio.’
I’r gwrthwyneb yn y gerdd ‘Cymru’ mae’r Cymro yn wladgarwr. Mae iaith y Cymro yn llawn cyfieithiadau llythrennol er enghraifft, ‘Gan roi fy cardiau ar y bwrdd’ a ‘allan o’r glas’. Ceir nifer o eiriau Saesneg fel ‘Once’ a ‘off’ a ‘proud’ ac er nad ydy yn treiglo’n gywir, mae o’n falch o’i wlad.
Bwriad Gerallt Lloyd Owen yn y cywydd yw codi cywilydd ar ei gyd-Gymry. Yn y ddau gwpled sy’n cloi cywydd mae’r bardd yn dweud ei fod yn fodlon ymladd a marw dros ei wlad. Mae symbol y cleddyf gwaedlyd yn drawiadol wrth i’r bardd gyfarch ei wlad,
Fy ngwlad, Fy ngwlad, cei fy nghledd
Yn wridog dros d’anrhydedd
O gallwn, gallwn golli